Mae sawl ffordd i gadw lle ar gwrs yn ESIS.
Ysgolion o fewn Awdurdod Lleol ESIS, gyda Chytundeb Lefel Gwasanaeth
Rhaid i bob ysgol o fewn Awdurdod Lleol ESIS gwblhau ffurflen HMS 2. Mae gan ysgolion sydd wedi buddsoddi mewn Cytundeb Lefel Gwasanaeth fynediad unigryw at system prynu ar-lein. Sicrhewch eich bod chi a'ch cydlynydd DPP wedi'u cofrestru ar y wefan, wedyn ychwanegwch y cwrs i'ch rhestr ddymuniadau a'i hanfon yn electronig at eich cydlynydd er mwyn eu gymeradwyo. Gall y cydlynydd wedyn gwblhau'r broses ar-lein. Fel arall gallwch chi lawr lwytho ffurflen HMS2, ei chwblhau'n ysgrifenedig a gall eich cydlynydd ei dychwelyd i ESIS ar INSET@esis.org.uk neu ffacsiwch 01443 827599.
Ysgolion o fewn Awdurdod Lleol ESIS, heb Gytundeb Lefel Gwasanaeth
Rhaid i bob ysgol o fewn Awdurdod Lleol ESIS gwblhau ffurflen HMS 2. lawr lwythwch ffurflen, ei chwblhau'n ysgrifenedig a gall eich cydlynydd DPP ei dychwelyd i ESIS ar INSET@esis.org.uk neu ffacsiwch 01443 827599.
Ysgolion y tu allan i Awdurdod Lleol ESIS
Dylai ysgolion nad ydynt yn gweithio o fewn un o bedwar awdurdod lleol ESIS gysylltu â'r tîm HMS yn syth trwy e-bostio INSET@esis.org.uk neu ffonio 01443 827500.
Yn yr adran hon byddwch chi’n cael y ffurflenni y bydd ESIS o bryd i’w gilydd yn gofyn amdanynt gan eich ysgol, os ydych chi’n rhan o Awdurdod Lleol ESIS.
HMS1: Danfoneb fisol i adalw costau cyflenwi a dalwyd eisoes o gyllideb yr ysgol. Mae hon yn ffurflen HMS1 newydd ac i gael ei defnyddio gan bob Awdurdod.
HMS2: Defnyddiwch y ffurflen hon i gadw llefydd i staff ar gyrsiau sydd yn rhan o Raglen DPP ESIS.
HMS3: Defnyddiwch y ffurflen hon i archebu unrhyw hyfforddiant y tu allan i raglen graidd DPP, megis ymgynghoriad ag ymgynghorydd ESIS, hyfforddiant yn yr ysgol neu hyfforddiant gan gyrff allanol.
HMS4: Defnyddiwch y ffurflen hon i archebu unrhyw hyfforddiant y tu allan i raglen graidd DPP ar gyfer clystyrau. I gael ei chwblhau gan yr ysgol sydd yn arwain y digwyddiad.
HMS5: Defnyddiwch hon i ofyn caniatâd i brynu adnoddau o arian GEY neu GCA.
HMS6: Danfoneb fisol newydd i adalw costau teithio a dalwyd eisoes o gyllideb yr ysgol.
|
|
HMS 1 | 196.3 KB |
|
|
HMS 2 | 91.3 KB |
|
|
HMS 3 | 10 KB |
|
|
HMS 4 | 13 KB |
|
|
HMS 5 | 99.6 KB |
|
|
HMS 6 | 151.8 KB |
|
|
SEG SAT Caerffili | 73.5 KB |
Mae eich adborth yn bwysig i ni. Os ydych chi wedi mynychu cwrs ESIS yn ddiweddar a heb roi eich adborth i ni hyd yn hyn, lawr lwythwch y ffurflen atodol a’i dychwelyd atom ni trwy’r post.
|
|
inset_course_evaluation_form.pdf | 189.7 KB |
|
|
Ffurflen Gwerthuso y Cwrs | 189.7 KB |