Wedi'i ariannu gan Rhondda Cynon Taf
Mae Datblygu Sgiliau Darllen: Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 3 yn gwrs newydd a ddatblygwyd gan y Tîm Saesneg yn ESIS. Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth gyfrannol o strategaethau addysgu darllen, er mwyn i athrawon ar draws Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 ddeall sut mae disgyblion yn ennill sgiliau darllen cynnar, dod yn ddarllenwyr rhugl, mynegiannol, datblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau casglu ac yn gallu darllen gyda rhywfaint o lythrennedd beirniadol.
Mae cyfranogion ar y cwrs hyd yn hyn wedi bod yn frwdfrydig ac ymatebol iawn, fel mae'r sylwadau canlynol yn dangos:
• “Rhannu graddau helaeth o wybodaeth a sgiliau. Adnoddau a syniadau ardderchog.”
• “Cyflwyniadau ardderchog, llwyth o wybodaeth. Ffolderi wedi'u cyflwyno'n hyfryd - gwerth blynyddoedd o adnoddau.”
• “Rwy'n gyffrous iawn am dreialu'r syniadau Llythrennedd Beirniadol gyda fy nisgyblion AAA Blwyddyn 3 a 4.”
• “Mae hwn yn gwrs gwerthfawr ar gyfer athrawon. Dydw i erioed wedi cael fy addysgu sut i addysgu darllen ac rwy'n gwybod dydy'r rhan fwyaf o athrawon heb chwaith.”
• “Bydd y cwrs hwn yn cael effaith fawr ar fy arfer. Bydd darllen yn ennill parch mawr ac yn codi safonau llythrennedd, a fydd yn ei dro yn codi safonau ymhob maes pwnc arall.”
• “Rhai syniadau gwych a fydd yn cael eu defnyddio yn fy arfer dosbarth, a bydd syniadau'n cael eu pasio ymlaen i aelodau staff.”