Cyfleusterau

Gyda goleuo naturiol, mae pob un o’n pedair ystafell ar ddeg wedi’u haerdymheru ac maent yn cynnwys rhwydweithio TGCh a systemau clyweled. Mae’n graddfeydd taliadau yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am hanfodion megis, siartiau troi, benthyg cliniaduron, cysylltiadau diwifr a RhAL (LAN) neu daflunwyr aml gyfrwng. Mae hefyd gennym gyfleuserau fideo cynadledda, gyda chysylltiad IP ac ISDN (cost fach ychwanegol ar gyfer ISDN). Mae tair o’n hystafelloedd yn ystafelloedd hyfforddiant TGCh sydd wedi’u hintegreiddio’n llawn. Pob un â dwsin o gyfrifiaduron personol a bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Gyda lle digonol i barcio a mynediadau i’r anabl, mae gennym le i unrhyw nifer o fynychwyr, o gyfarfodydd bach un-i-un hyd at gynadleddau i 200+. Mae lolfeydd coffi mawr, agored yn gweithredu fel mannau cyfarfod ac ardaloedd cymdeithasol ar bob un llawr gyda chyfleusterau arlwyo ar gael sydd yn amrywio o de a choffi sy ml i brydau bwffe a phrydau yn ein bwyty. Gallwn hefyd ddarparu prydau dathlu a gwleddau yn ein hystafelloedd cynadledda.

The Conference Centre @ ESIS