Mae'r prosiect hwn wedi galluogi athrawon a staff cefnogi i ganolbwyntio ar godi lefel sgiliau llafaredd eu holl ddisgyblion, ond yn arbennig bechgyn sydd yn tangyflawni.
Mynychodd athrawon a nifer o CCD o Ysgol Gynradd Edwardsville (CA2), Ysgol Gynradd Heolgerrig, Ysgol GR St. Mary's, Ysgol Gynradd Trelewis, Y.G.G. Rhyd-y-Grug, ddiwrnod hyfforddi yn ESIS ym mis Medi 2008, dan arweiniad y tîm ymgynghorol Saesneg, lle archwiliwyd ffocws ar ddysgu ac addysgu sgiliau cyflwyno a gwaith grŵp. Dychwelodd staff i'w hysgolion gydag ystod estynedig o strategaethau a gweithgareddau dysgu ac addysgu er mwyn atgyfnerthu arfer dosbarth.
Mae'r samplau atodol yn rhoi syniad o rai gweithgareddau ac ymatebion plant, a gynhyrchwyd trwy weithgaredd llafaredd traws gwricwlaidd ardderchog. Mae'r cyflwyniad PowerPoint atodol gan Sharon Hedges o Y.G.G. Rhyd-y-Grug, yn arddangos gwaith ardderchog staff a disgyblion yr ysgol.
|
|
Merthyr Tydfil Boys' Oracy Project.doc | 1.63 MB |