Daeth y cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig i rym ym mis Medi 2008 ac mae arweinwyr pwnc Gwyddoniaeth ac athrawon bellach yn ystyried sut orau y gallant gyflwyno Gwyddoniaeth yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 mewn ffyrdd a fydd hefyd yn cyfoethogi sgiliau ehangach ac allweddol disgyblion.
Ar hyn o bryd mae nifer o athrawon yn ansicr am y cydbwysedd priodol rhwng sgiliau a gwybodaeth wyddonol, y pedwar sgil yn y fframwaith (cyfathrebu, rhif, TGCh a meddwl), am sut y gallant asesu cynnydd a chyrhaeddiad yn effeithiol mewn Gwyddoniaeth ac am ble y gallant ddod o hyd i adnoddau a syniadau a fydd yn bachu ac yn cyffrou eu disgyblion.
Mae'r cyflwyniad canlynol yn crynhoi rhai o'r syniadau a'r adnoddau a rannwyd gydag arweinwyr Gwyddoniaeth ac athrawon mewn digwyddiadau HMS diweddar. Mae'r syniadau a'r adnoddau hyn wedi'u cysylltu â'r agweddau canlynol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer Gwyddoniaeth.
• Cynnwys gwyddonol (ystod) a sgiliau gwyddoniaeth penodol
• Sgiliau'r fframwaith sydd yn berthnasol i'r pwnc (y pedwar i Wyddoniaeth)
• Deunyddiau ar gyfer sicrhau pontio effeithiol rhwng CA2 a 3
• Lle AagD yng nghanol dysgu ac addysgu
• Addysgeg arfaethedig yn y cwricwlwm newydd a dogfennau cefnogol
Efallai bydd y rhain yn helpu cydweithwyr wrth iddynt ddatblygu rhaglenni gwaith ar gyfer eu disgyblion.
Bydd y rhaglen HMS ar gyfer y ddau dymor nesaf yn rhoi cyfleoedd i athrawon ystyried sut y gallant helpu disgyblion i ymholi'n dda, sut y gallant wella cyfathrebu gwyddonol a sut all gwyddoniaeth ddarparu cyfleoedd fa i ddisgyblion datblygu eu sgiliau rhif. Mae'r cyrsiau ar gael ar wahân i CA2 a CA3 a byddai arweinwyr pwnc neu athrawon yn elwa o fynychu'r cwrs.
Mae manylion o'r cyrsiau hyn ar gael ar wefan ESIS neu gan Mike Tibbott, Ymgynghorydd Gwyddoniaeth, trwy ffonio 01443 827554 neu e-bostio mike.tibbott@esis.org.uk
|
|
The New Curriculum in Science at Key Stage 3 | 880.5 KB | ||
| Some guidance about how our subject has changed | ||||