Ym mis Ebrill 2007, dechreuodd ESIS hyfforddi athrawon Gwyddoniaeth i gyflwyno'r cwricwlwm 8-14 newydd. Mae'r gyfres gyntaf o'r cyrsiau hyn ar fin dod i ben a bydd y rhaglen ar gyfer y tair blynedd nesaf yn darparu gwahanol gyfleoedd hyfforddi, a fydd yn cynnwys rhannu arfer dda rhwng ysgolion a datblygiad ystod newydd o adnoddau a gweithgareddau. O achos hyn, gallem ni bellach roi'r holl adnoddau hyfforddi a ddefnyddiwyd dros y 3 blynedd diwethaf ar ein gwefan i bawb eu gweld.
Roedd ein hadnodd gyntaf yn sioe sleidiau o'r enw 'Y Cwricwlwm Gwyddoniaeth Newydd yng Nghyfnod Allweddol 3', sydd yn crynhoi rhai o'r prif negeseuon a rannwyd eisoes â'r cyfranogion.
Enw'r ail gyfraniad yw Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd (Gwyddoniaeth) - Rhif. Unwaith eto, mae sioe sleidiau y gellir ei lawr lwytho sydd yn darparu ystod o feddwl am gyflwyno cwricwlwm sgiliau, ystod o adnoddau sydd yn gysylltiedig ag ysgolion sgiliau APADGOS sydd fwyaf perthnasol i ddatblygu sgiliau rhif disgyblion, a chasgliad o adnoddau a gasglwyd gan ystod o brosiectau adnabyddus.
Gobeithiwn wrth i ni gyhoeddi gweddill y deunyddiau, y gall athrawon nad oedd wedi mynychu'r HMS elwa o rai o'r gwaith a wnaed eisoes.
|
|
Implementing the New Curriculum for Science (Number) | 1.58 MB |