Mae Amgylchedd o Safon (ysgolion) yn cynnig ystod eang o syniadau cyffrous ac enghreifftiau ar gyfer datblygu amgylcheddau dan do ac awyr agored i holl ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen er mwyn iddynt ddarparu profiadau dysgu trwy chwarae ymarferol i blant ifanc. Mae’n edrych ar greu amgylchedd dysgu heriol a datblygu darpariaeth barhaus o safon.
Mae 13 adran benodol: Y Gornel Llyfrau, Ardal Gwneud Marciau, Ardal Fathemateg, Adeiladu, Byd Bach, Chwarae Rôl, Dewch I Ymchwilio, Ardal Sain a Cherddoriaeth, Ardal Greadigol, Ardal Clai a Thoes, Ardal Dywod, Ardal Ddŵr a’r Awyr Agored.
Mae pob adran yn amlinellu sut y gallwch chi ddatblygu’r ardal hon yn llwyddiannus o fewn eich dosbarth, yn rhestru dewis o adnoddau a ddylai fod ar gael ac yn esbonio sut y gallwch wneud i’r ardal weithio yn yr awyr agored. Rhoddir cyngor ar sut y gellir ymgorffori a datblygu pob un o’r saith maes dysgu yn y 13 ardal.
NODER: MAE’R ADNODD HWN AR GAEL YN Y GYMRAEG A’R SAESNEG
Cyhoeddwyd 2009
| Cost Lawn |
£ 80.00
|
| Cost Lawn gyda CLG | £ 72.00 |
| Cost Lawn |
£ 80.00
|
| Cost Lawn gyda CLG | £ 72.00 |