Digwyddiadau >> Cynhadledd ADCDF ar gyfer y Cyfnod Sylfaen Ebrill 2010

Cynhaliwyd cynhadledd ar gyfer 40 o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen o Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn Ysgol Feithrin Pontycymer ar Ddydd Mercher 21ain Ebrill.

Roedd y gweithdai'n cynnwys Gweithio gyda Helyg, Hela Pryfed, Rhythm Byd-Eang Affrica, Tyfu llysiau o'r hedyn, Gwneud Briquettes o bapur newydd wedi'i ailgylchu, Mae Dinosoriaid ac ati'n Rwtsh, Egni Cynaliadwy, Diwrnod ym Mywyd Plentyn o Uganda a Blasu Ffrwythau. Roedd arddangosfeydd a nwyddau am ddim ar gael o Ysgolion Masnach Deg a Chyflenwad y Sir.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda mwyafrif y gweithdai'n cael eu cynnal yn yr awyr agored o ganlyniad i'r tywydd heulog ond oer!

Profodd gwerthusiadau'r digwyddiad iddo fod yn llwyddiant mawr ymhlith athrawon a disgyblion.

'Roeddwn i'n hoffi chwarae'r drwm o wlad wahanol.' 'Roeddwn i'n caru pigo'r pryfed lan.' 'Roeddwn i'n hoffi ailgylchu'r sbwriel.' Heol y Cyw Primary

'Roeddwn i wedi mwynhau gwneud y bandiau a'r coronau.' Abercerdin Primary

'Roeddwn i'n caru sgrwnsio'r papur newydd.' Garth Primary School

Bydd disgyblion oedd yn cynrychioli eu hysgolion yn mynd nôl i'r ysgol i adrodd ar y dydd i'w dosbarthiadau ac yn rhannu eu harbenigedd gyda phawb. Mewn un ysgol mae disgyblion eisoes wedi penderfynu gwneud a gwerthu'r briquettes o bapur wedi'i ailgylchu i'r athrawon ar gyfer eu barbiciws yn yr haf. Roedd yr holl ddisgyblion yn awyddus i dreulio mwy o amser ymhob gweithdy a gwahodd y darparwyr i'r ysgol.

Ewch i'r wefan BEES am fanylion cyswllt i gefnogi'ch gwaith ADCDF.

Edrychwch ar ffotograffau o'r digwyddiad yn y ffolder isod.

www.bridgend.gov.uk/bees

Ffeiliau Cysylltiedig
WMA (Audio) File ESDGC Foundation Phase Conference Photos 1.26 MB
Photographs from the ESDGC fondation Phase conference April 2010 at Pontycymmer Nursery School

19 Ebrill 2010
Ymwneud â / ag: ADCDF, Cyfnod Sylfaen

 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn:

Chwilio Cyflym

Ymwneud â / ag