Gellir ariannu DPP mewn ysgolion mewn sawl ffordd, gan gynnwys cyllideb yr ysgol. Yn bennaf, fe’i hariannir gan grantiau. Mae nifer ar gael yn flynyddol:
Cronfa Ysgolion Gwell
Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn dyrannu’r grant hwn yn flynyddol ac ar hyn o bryd mae’n ymdrin â chwe maes blaenoriaeth sef:
• Gwella Safonau a Chyflawniad (Pontio, Sgiliau Sylfaenol ac IMT yng Nghyfnod Allweddol 2)
• Trefniadau Cwricwlwm Diwygiedig ac Asesu
• Cefnogi Disgyblion, Diogelu ac Amddiffyn Plant
• Cynhwysiad
• Iaith Pawb mewn Ysgolion
• TGCh mewn Ysgolion
Yr Awdurdod Lleol sydd yn cadw’r grant ac fe’i gweinyddir gan ESIS. Rhoddir canran uchel o’r arian hwn i ysgolion ac mae ar gael trwy Gydlynydd DPP ysgolion.
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Mae Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn gweinyddu rhaglen ariannu DPP sydd â ffocws unigol ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cynulliad yn rhoi £3miliwn yn flynyddol, sydd yn galluogi CACC i gymeradwyo ceisiadau tua 4,500 o athrawon. Mae angen i unigolion wneud ceisiadau i CACC.
Athrawon Newydd Gymhwyso
Rhoddir arian yn syth i ysgolion gan CACC er mwyn cefnogi Athrawon Newydd Gymhwyso. Bydd y Cydlynydd DPP yn sicrhau y cefnogir yr ANG trwy gydol y cyfnod sefydlu.
• Cyflwyno Cofnod Sefydlu ANG i CACC ar ddechrau’r tymor
• Cyflwyno Cofnod Asesu Sefydlu i’r AALl ar ddiwedd Tymor Sefydlu gan yr ANG
Bydd arian wedyn yn cael ei ryddhau i’r ysgol trwy CACC (pob tymor ac yn ôl-weithredol) ar ôl derbyn hysbysiad gan yr ALl bod yr ANG wedi cwblhau Tymor Sefydlu.
Athrawon DPC
Mae athrawon yn eu hail a’u trydedd flwyddyn o addysgu yn derbyn £1000 y flwyddyn trwy CACC i gefnogi’u datblygiad proffesiynol. Rhoddir hyn yn syth i’r ysgolion gan CACC ar ôl derbyn Ffurflenni Cynllunio / Gwerthuso DPC.
• Cyflwyno’r Ffurflen Cynllunio DPC ar gyfer naill ai’r Flwyddyn Gyntaf neu’r Ail Flwyddyn i CACC pan fo’r athro/athrawes yn dechrau’r flwyddyn DPC
• Cyflwyno’r Ffurflen Gwerthuso DPC ar gyfer naill ai’r Flwyddyn Gyntaf neu’r Ail Flwyddyn ar ôl cwblhau’r flwyddyn DPC
Bydd arian wedyn yn cael ei ryddhau i’r ysgol trwy CACC (pob tymor ac yn ôl-weithredol) ar ôl derbyn y Ffurflen Werthuso ac ar ôl gwirio cymhwysedd y gweithgarwch DPC ei hun a gofnodir ar y Ffurflen Werthuso. Am ragor o wybodaeth ar y grantiau sydd ar gael gan CACC ewch at www.gtcw.org.uk