Mae ESIS yn ymroddedig i sicrhau bod ein holl athrawon yn derbyn y gefnogaeth a’r adnoddau i’w cadw i fyny â’r dulliau addysgu diweddaraf a’r newidiadau diweddaraf i’r cwricwlwm.
Mae tîm ymgynghorol ESIS felly, o hyd yn ymdrechu i gynhyrchu deunyddiau addysgu o safon i athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae ein cynnyrch yn ymdrin â holl feysydd a chyfnodau’r cwricwlwm ac yn cynnwys adnoddau o ffolderi hyfforddi llawn cyngor ar gyfer athrawon i adnoddau dosbarth at ddefnydd plant a phobl ifanc.
Mae’r holl ddeunyddiau addysgu a gynhyrchir gan ESIS ar gael i’w harchebu. Er mwyn chwilio am adnoddau ar gyfer eich ysgol, ewch i’r brif adran Cynnyrch ESIS ar y wefan.