Mae’r ardal hon o’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd DPP a gweithgareddau gwella ysgolion a phecynnau sydd yn adlewyrchu tair blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Dyluniwyd pob gweithgaredd i gefnogi ysgolion wrth wella llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad addysgiadol. Mae ffocws clir i ddatblygiad athrawon a gweithgareddau gwella ysgolion ESIS ar ddarparu strategaethau ac ymagweddau at ymdrin â’r blaenoriaethau er mwyn gwella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Dyluniwyd pob rhaglen i allu ei chyflwyno’n hyblyg – fel clwstwr neu fel digwyddiadau ysgol gyfan, Cymunedau Dysgu Proffesiynol, rhaglen o ymweliadau dysgu gyda gweithgareddau dilynol neu unrhyw ffordd arall sydd yn diwallu anghenion ysgol neu glwstwr.
Gellir addasu’r rhaglen a gyflwynir yma at ddefnydd ysgolion unigol. Bwriad y rhaglen yw bod yn fan cychwyn i helpu ysgolion i ddatblygu gweithgareddau gwella y gellir eu cefnogi gan y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion ac a fydd yn effeithio ar safonau llythrennedd a rhifedd neu helpu’r ysgol i leihau effaith tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad.
Os hoffech chi wybodaeth bellach am yr un o’r rhaglenni arfaethedig neu os oes gennych chi ymagwedd yr hoffech ei datblygu yn eich ysgol, cysylltwch â’ch Hwyluswr Datblygiad Proffesiynol Parhaus.