Mae ESIS yn drefniant gweithio ar y cyd rhwng Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i ddarparu cefnogaeth addysg i’r ysgolion a’r lleoliadau o fewn yr awdurdodau hyn.
Gall ysgolion o fewn y pedwar awdurdod ddewis i weithio ag ESIS mewn dwy ffordd:
Gyda Chytundeb Cefnogi
Mae bron i 95 y cant o ysgolion o fewn yr awdurdodau yn dewis gweithio ag ESIS yn nhermau Cytundeb Cefnogi.
Mae’r cytundeb yn galw ar ysgolion i wario swm blynyddol o arian gydag ESIS (mae dwy lefel gytundeb ar gael yn dibynnu ar faint o wasanaethau y mae’r ysgol yn dymuno’i brynu).
Mae’r swm yn cynnwys y canlynol:
• 33% o ostyngiad ar gyrsiau hyfforddi HMS a gwasanaeth blaenoriaeth lle
• 10% o ostyngiad ar ddeunyddiau addysgu
• 50% o ostyngiad ar gostau ymgynghoriad
• Adroddiadau ariannol misol yn manylu gwariant yn erbyn y CYG
• Darpariaeth cofnodion hyfforddi athrawon
• Cymorth Pryniant TG
• Mynediad at gynadleddau penaethiaid
• Mynediad at seminarau uwch reolwyr
• Mynediad at gyfarfodydd DPP i drafod blaenoriaethau
• Mynediad at ardaloedd cyfyngedig o’r wefan
Heb Gytundeb Cefnogi
Er y cynghorir ysgolion i arwyddo Cytundeb Cefnogi ag ESIS er mwyn elwa o wasanaethau ychwanegol a chostau llai, nid yw’n orfodol. Gall ysgolion dal i weithio’n agos ag ESIS, ond heb allu elwa o’r gostyngiadau.
Yn ogystal, gall ysgolion ac asiantaethau y tu allan i’r pedwar cyngor hefyd weithio ag ESIS.
I ddarganfod rhagor am weithio gydag ESIS dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth, cysylltwch â'r tîm HMS ar 01443 827500.