CRIS

Mae ESIS wedi datblygu fframwaith i gefnogi hunan werthuso – system CRIS. Mae CRIS (DMGC yn Gymraeg) yn sefyll am Dathlu, Mireinio, Gwella a Cefnogi, sef graddfa arfarnu pedwar pwynt sydd yn gysylltiedig â chategorïau arolygu Estyn (Swyddfa Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant).

Mae’r deunyddiau CRIS yn helaeth, yn hyblyg a gellir eu defnyddio fel ymagwedd ysgol gyfan at hunan werthuso neu fel pecyn i gefnogi meysydd penodol o hunan werthuso ysgol. Mae’r fersiwn bresennol, CRIS2, yn ail fersiwn y model hunan werthuso ysgol CRIS gan ESIS. Fe’i diweddarwyd yn 2004 yn agos at adolygiad diwethaf Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn. Mae CRIS2 yn cynnig arweiniad ar sut i werthuso’r saith maes allweddol sydd yn cwmpasu’r mwyafrif o’r gweithgareddau y mae ysgolion yn ymgymryd â nhw. Yn CRIS2 mae’r meysydd allweddol wedi’u rhannu’n elfennau a themâu i alluogi dynodi nodweddion penodol er mwyn gallu gwneud arfarniadau am safonau. Pecyn cefnogi ydyw sydd yn disgrifio enghreifftiau o arfer dda a diffygion. Mae’n cynnwys ystod o ffurflenni a holiaduron enghreifftiol wedi’u cyflwyno’n electronig neu ar gopi papur.

Mae’r system yn cynnig cyfleoedd ardderchog i rannu arfarniadau a helpu gwahanol ymarferwyr ac arweinwyr ysgol i werthuso pa mor dda mae eu hysgol yn ei wneud. Bydd y systemau hyn yn cael eu hadolygu wrth i Broffil Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd Estyn gael eu datblygu a phan gyhoeddir a datblygir yr ymagweddau Cymru gyfan unedig arfaethedig at hunan werthuso ysgolion o dymor y Gwanwyn 2010 ymlaen.
 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: