Mae ein hystadegydd neilltuol yn darparu nifer o wasanaethau i Awdurdodau Lleol ac ysgolion.
Adolygiad Cynnydd Blynyddol (Cynradd) ac Adolygiad Dadansoddi Data Blynyddol (Uwchradd)
Pob blwyddyn mae ESIS yn coladu ac yn dadansoddi Data Asesu Cwricwlwm Cenedlaethol eich ysgol, ac mae galw arnoch chi i'w lwytho i fyny i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr haf. Gan ddefnyddio'r data hwn, sydd yn ymestyn o asesiadau gwaelodlin mewn ysgolion cynradd i ganlyniadau arholiadau allanol mewn ysgolion uwchradd, rydym ni'n darparu Pecynnau Dadansoddiad i ysgolion.
Mae'r pecynnau hyn yn cynnwys cymariaethau rhwng perfformiad cyfredol a gorffennol (lle bo'n briodol) mewn sawl maes: tueddiadau cyffredinol mewn perfformiad, perfformiad fesul rhyw, perfformiad fesul pwnc, meincnodi LlCC, cyfartalion yr awdurdod lleol a chyfartalion cenedlaethol, gan dynnu cymariaethau fel y bo'n briodol.
Dosberthir y pecynnau hyn yn Nhymor yr Hydref gan eich Ymgynghorydd Cyswllt.
Asesiadau Gwaelodlin
Mae ESIS ar hyn o bryd yn gweithredu un o'r Cynlluniau Asesu Gwaelodlin achrededig mewn Ysgolion Cynradd.
Mae galw ar bob ysgol i asesu eu disgyblion o fewn chwe wythnos gyntaf eu hoedran derbyn, gan lwytho'r canlyniadau i fyny trwy wefan ddiogel yn syth i ESIS ar ddechrau Tymor yr Hydref.
Yn ail hanner Tymor yr Hydref, rydym ni'n dadansoddi'r wybodaeth hon er mwyn helpu ysgolion i ddeall gallu'r mewnlif newydd o ddisgyblion. Mae cymariaethau'n cynnwys fesul rhyw a fesul meysydd dysgu.
Fischer Family Trust
Mae ESIS yn gweithredu fel cyswllt rhwng ysgolion uwchradd a Fischer Family Trust, sydd yn cynnig amcangyfrifon o berfformiad a dadansoddiad gwerth ategol ar gyfer ysgolion uwchradd yn seiliedig ar ddata asesu'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r wybodaeth hon yn helpu ysgolion i osod eu targedau eu hunain ar gyfer y flwyddyn/blynyddoedd o'u blaen.
CBAC / WED
Mae ESIS yn gweithredu fel cyswllt rhwng ysgolion uwchradd a CBAC / WED, sydd yn cynnig dadansoddiad gwerth ategol ar gyfer ysgolion yn seiliedig ar ddata arholiadau allanol. Mae'n galluogi ysgolion i gymharu eu hunain yn genedlaethol ar lefelau pwnc penodol.
Ymgynghoriad
Mae ESIS yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol i'n pedwar awdurdod lleol a'u hysgolion ac yn gweithio'n ddiddiwedd ar brosiectau penodol er mwyn diwallu anghenion lleol neu benodol. Er enghraifft, helpu penaethiaid adran i ddadansoddi'r data sydd ar gael ar gyfer eu pwnc penodol, neu gynnig hyfforddiant i uwch reolwyr ar sut orau i ddefnyddio ystadegau.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am sut all ein gwasanaeth ymgynghorol helpu'ch ysgol, cysylltwch â Caryl Stokes, trwy e-bost caryl.stokes@esis.org.uk neu'r ffôn: 01443 827564.