Estyn yw Swyddfa Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae ESIS yn un o Gytundebwr Arolygu cydnabyddedig swyddogol Estyn ac felly’n cynnal tîm achrededig a hyfforddedig gan Estyn o ymgynghorwyr cynradd ac uwchradd. Mae’r timau hyn yn cynnwys Arolygwyr Cofrestredig, sydd yn gymwys i arwain arolwg ac i gyhoeddi adroddiadau dan gytundeb ag Estyn ac ymgynghorwyr tîm sydd yn gallu arfarnu safonau a darpariaeth ar draws y cyfnodau, meysydd dysgu a’r cwricwlwm. Trwy ymgymryd â’r gwaith hwn gall ymgynghorwyr ESIS ddatblygu a defnyddio’u harbenigedd er budd ysgolion o fewn a thu hwnt i’r pedwar awdurdod partner.