Gwerthusiad Ysgol

Ar ran yr Awdurdodau Lleol partner, mae gan ESIS ymgynghorydd arbennig yn gysylltiedig â phob ysgol yn y pedwar Bwrdeistref Sirol. Fe’u gelwir yn Ymgynghorwyr Cyswllt yr ysgol, ac maent yn brofiadol mewn hunan werthuso ysgolion a chynllunio datblygiad. Eu bwriad yw helpu’r ysgol gyda’i gweithgareddau hunan werthuso a bod yn ‘ffrind beirniadol’.

Mae ESIS yn rhan o system Arolygu Estyn, gyda nifer o arolygwyr hyfforddedig a phrofiadol yn ei dimau ymgynghorol. Ymhob ysgol bydd yr Ymgynghorydd Cyswllt yn adolygu targedau a data gyda’r penaethiaid a’r arweinwyr dysgu. Byddant yn cynghori ac yn helpu i gynllunio a chydlynu gweithgareddau gwella ysgol ac yn helpu defnyddio eraill yn nhimau’r Awdurdod Lleol lle bo’n briodol. Mae’r Ymgynghorydd Cyswllt yn elfen bwysig o ddyletswydd statudol yr Awdurdodau partner i gefnogi a herio ysgolion. Mae gweithio gydag ysgolion yn eu gweithgareddau hunan werthuso yn helpu cyflawni’r ddyletswydd.

Mae gan ESIS nifer o gyhoeddiadau y gellir eu defnyddio gan ysgolion i enghreifftio arfer dda. Datblygwyd fframwaith clir i gefnogi hunan werthuso (CRIS2). Defnyddir deunyddiau CRIS2 yn eang iawn. Mae’r deunyddiau hyn yn helaeth, yn hyblyg a gellir eu defnyddio fel ymagwedd ysgol gyfan at hunan werthuso neu fel pecyn i gefnogi meysydd penodol o hunan werthuso ysgol. Bydd y systemau hyn yn cael eu hadolygu wrth i Broffil Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd Estyn gael eu datblygu a phan gyhoeddir a datblygir yr ymagweddau Cymru gyfan unedig arfaethedig at hunan werthuso ysgolion.

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: