Mae rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaol ESIS yn cynnwys tua 450 o gyrsiau hyfforddi HMS bob blwyddyn academaidd, gan gynnwys sesiynau min nos, cyrsiau undydd a chynadleddau mwy. Cyflwynir cyrsiau gan ymgynghorwyr ESIS, siaradwyr gwadd nodedig ac ymarferwyr dosbarth.
Mae’r holl gyrsiau wedi’u dylunio i helpu athrawon o fewn pedwar awdurdod ESIS â’u datblygiad personol ac â gwella ysgolion, gyda’r prif ffocws ar wella dysgu plant. Maent yn darparu cyfle prin i athrawon rwydweithio a rhannu arfer orau o fewn cronfa wybodaeth gynyddol.
I weld ein rhestr lawn o gyrsiau ac i gadw lle ar gwrs, ewch i’r adran HMS ar y wefan.