Mae ESIS yn darparu cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd ar y cwricwlwm, agweddau ysgol gyfan a materion sydd yn ymwneud ag arwain a rheoli. Yn wir, pan fyddwch chi’n casglu’r holl wasanaethau at ei gilydd, gallwn helpu mewn bron i unrhyw faes o ddatblygiad ysgol.
Rydym ni’n gweithio gyda phob lefel o bobl broffesiynol addysg, gan gynnwys penaethiaid, uwch rheolwyr, athrawon a chynorthwywyr cefnogi dysgu. Gellir dylunio hyfforddiant ac ymgynghoriad yn addas ar gyfer eich gofynion datblygu ysgol a DPP penodol.