Richard Knowles

richard.knowles@esis.org.uk

Yn ei rôl fel Pen Ymgynghorydd, mae gan Richard ystod o gyfrifoldebau strategol a gweithredol. Mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros reoli Rhaglen Adolygu a Datblygu ysgolion uwchradd. Mae hwn yn cynnwys arwain a rheoli timau ymgynghorwyr cyswllt ac ymgynghorwyr pwnc. Mae hefyd yn arwain y gr?p strategaeth dysgu ac addysgu sydd yn cynnwys personél allweddol o fewn ESIS ac yn cynnwys cynrychiolaeth gan swyddogion y 5 Awdurdod Lleol yn Nghonsortiwm Canolbarth y De.

Mae Richard yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr yn ESIS ac yn cyfathrebu’n rheolaidd ag uwch swyddogion ar draws y 5 Awdurdod Lleol.

Mae gan Richard Radd Feistr mewn Dysgu Addysgu a Rheolaeth Addysgiadol. Mae’n Arolygwr Cofrestredig profiadol ac yn Bartner Gwella Ysgolion achrededig. Pan fo amser yn ei alluogi, mae’n nofiwr brwd, yn rhedwr gwael ac ar hyn o bryd yn ceisio dysgu i sgïo.

 


Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: