Dafydd Roberts yw'r Pen Ymgynghorydd ar gyfer Addysg Gynradd. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes hwn, yn ogystal â bod yn bennaeth ar ddwy ysgol wahanol iawn. Mae hefyd wedi gweithio'n helaeth mewn colegau hyfforddi a gyda CBAC.
Fel Pen Ymgynghorydd mae'n arwain tîm o ymgynghorwyr cynradd sydd yn gweithio ar draws ardal ESIS. Mae hefyd yn ymgynghorydd cyswllt i Ben-y-bont ar Ogwr ac yn cymryd rhan mewn uwch reolaeth o fewn yr awdurdod.
Mae Dafydd Roberts yn gweithio cyfochr ag ymgynghorydd y Gymraeg, gan ymgynghori ar faterion yr iaith Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg. Agwedd bwysig arall o'i waith yw Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol Penaethiaid (CPCP). Mae'n gyd is-gadeirydd y corff llywodraethol (CELT) ac yn gweithio fel hyfforddwr blaen, tiwtor ac aseswr ar gyfer grwpiau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.