Jane Houlihan

jane.houlihan@esis.org.uk

Jane Houlihan yw’r Ymgynghorydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ac ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Cyswllt yr holl Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ar draws pedwar Awdurdod Lleol ESIS.

Am 18 mlynedd buodd Jane yn addysgu mewn nifer o Ysgolion Uwchradd mawr yng nghanol dinas Llundain, gydag ystod o gyfrifoldebau ysgol gyfan gan gynnwys Cefnogi Dysgu, AAA, AAYA a darpariaeth SIY. Yng Ngogledd Iwerddon cafodd Jane swydd fel Swyddog Cefnogi Disgyblion oedd yn gyfrifol am Asesu Statudol. Roedd hi’n aelod o Weithgor Gogledd Iwerddon ar Awtistiaeth ac mae hi’n parhau â diddordeb yn y maes hwn. Tra’r oedd hi yng Ngogledd Iwerddon, cafodd Jane amser hefyd yn Bennaeth dros dro ar Ysgol AAYA.

Mae Jane yn arolygydd Estyn ac yn gymwysedig i arolygu Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae hi hefyd yn aelod o Gynhwysiad ADEW a Gr?p Ymgynghorwyr AAA.
 


Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: