David Evans yw’r Ymgynghorydd Cynorthwyol ar gyfer Addysg Awyr Agored. Mae David yn darparu cymorth a chyngor i bob cyfnod ar gyfer holl ymweliadau addysgiadol, a gallai gynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer ystod eang o weithgareddau antur ac awyr agored.
Mae’n gyfrifol am gymeradwyo a monitro ymweliadau addysgiadol gan ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru a fabwysiadwyd gan bedwar ALl ESIS.
Mae David yn Gadeirydd Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored (Cymru) ac mae ganddo brofiad ac arbenigedd helaeth mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored.