Mae Brenda Morgan yn aelod o ymgynghorwyr y Tîm Cynradd yn ESIS ac ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Cyswllt i ysgolion yng nghlystyrau Aberdâr a Blaengwawr. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn datblygu a gweithredu’r Cyfnod Sylfaen ac â chyfrifoldeb penodol am gefnogi darparwyr addysg dan nawdd o’r sector nas cynhelir ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae ganddi gyfrifoldeb rheolwraig llinell y Swyddogion Cefnogi a Hyfforddi’r Cyfnod Sylfaen yn ESIS ac Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae Brenda yn arolygydd Estyn ac yn gymwys i arolygu’r Cyfnod Sylfaen. Mae hi hefyd yn aelod o Ymgynghorwyr Blynyddoedd Cynnar Cymru Gyfan (AWEYA).