Mae David Penny Jones yn Ymgynghorydd Cynorthwyol ar gyfer TGCh. Mae’n arolygydd tîm Estyn ac yn aseswr Marc TGCh. Mae David yn darparu cyngor ar faterion TGCh a hunan werthuso ysgol gyfan mewn ysgolion cynradd. Mae’n ymgynghorydd allanol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De yng Nghymru, ac wedi cynnal nifer o adolygiadau rheoli perfformiad gyda phenaethiaid a chynrychiolwyr o’r llywodraethwyr ac wedi asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU). Mae David yn hyfforddwr achrededig ar gyfer byrddau gwyn rhyngweithiol Promethean a Smartboard.