Eryl Samuel yw'r Ymgynghorydd Cynorthwyol ar gyfer Daearyddiaeth ac ADCDF. Mae rôl Eryl yn cynnwys cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant ar Ddaearyddiaeth ymhob cyfnod allweddol ac ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF). Mae Eryl yn cydlynu ADCDF ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ac mae'n ysgrifennydd Rhwydwaith Ysgolion ADCDF Cymoedd Morgannwg a'r Fro. Mae hefyd yn aelod o'r tîm Think2Learn ac yn hwyluswr Link2Learn ar gyfer clwstwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Eryl yn aelod o Banel Dyniaethau Cenedlaethol Cymru. Mae wedi golygu ac ysgrifennu llyfrau testun ar sgiliau meddwl mewn Daearyddiaeth Cyfnod Allweddol 3 ac ar sgiliau ymchwilio yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3. Mae Eryl yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn gallu cyflwyno yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.