Mae Chris Morgan wedi dychwelyd rhan amser yn ddiweddar i ESIS fel Ymgynghorydd Cynradd, ar ôl secondiad pedair blynedd fel Pennaeth Ysgol Gynradd Glenboi yn RhCT.
Mae ei swydd ddiweddar fel pennaeth wedi atgyfnerthu ei ddealltwriaeth o'r pwysau sydd ar benaethiaid heddiw a'r ysgolion y maent yn eu gwasanaethu.
Ei gyfrifoldebau yw rhai ymgynghorydd cynradd cyffredinol ac mae'n gallu cynnig cyngor ac arweiniad ar nifer fawr o faterion yn y maes cynradd. Mae ganddo arbenigedd hefyd mewn strategaethau ymddygiad positif, addysgeg dosbarth, amser cylch ayyb. Mae hefyd yn hyfforddwr SCIPr cymwysedig, ac yn gallu gweithio mewn ystod fawr o leoliadau addysgiadol. Mae SCIPr U.K. yn strategaeth sydd yn hyrwyddo ymddygiad positif ac ataliad corfforol mewn ffordd sydd yn rhwystro anaf i ddisgyblion a staff, a hefyd yn cynnal urddas disgyblion sydd ag anghenion addysgiadol a/neu ymddygiad difrifol.