Croeso i ESIS

ESIS yw’r Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion sydd yn gwasanaethu pedwar awdurdod lleol a’u hysgolion yng nghymoedd De Cymru.

Sefydlwyd ESIS ym 1996, fel trefniant gweithio ar y cyd rhwng cynghorau bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae ESIS yn gwasanaethu tua 350 o ysgolion a thros 7,000 o athrawon gyda gwasanaethau hyfforddiant, ymgynghoriad ac arolwg i gefnogi rhaglenni gwella ysgolion yr awdurdod lleol.

Trwy ei waith cydweithredol unigryw, mae ESIS yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr sydd yn ymdrin â’r holl feysydd cwricwlwm a’r holl gyfnodau o’r blynyddoedd cynnar i ôl 16. Mae’n tynnu ar arbenigedd timoedd rheoli, ymgynghorwyr, ymgynghorwyr cynorthwyol, y tîm Athrawon Bro, athrawon a phenaethiaid cyfredol a phobl addysg allanol.

Mae ESIS hefyd yn gweithredu’r Ganolfan Gynadledda, safle o’r radd flaenaf ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau ar gyrion Caerdydd sydd ar gael i fusnesau preifat a mudiadau o’r sector gyhoeddus i’w hurio.
 

Newyddion

19/07/10 Gŵyl Addysg Grefyddol
19/07/10 AtGyfnerthu
19/07/10
15/07/10
02/07/10

Gweld y newyddion i gyd

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn:

Chwilio Cyflym

Ymwneud â / ag

Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion Cynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.