Hanes

Sefydlwyd ESIS ym 1996, fel trefniant gweithio ar y cyd rhwng cynghorau bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf er mwyn galluogi pob un o’r awdurdodau i elwa o fenter gydweithredol, gysylltiol ac i helpu gwasanaethau addysg a phlant i fod yn economaidd, effeithlon ac effeithiol.

Fel menter gydweithredol, mae ESIS yn sefydliad llywodraeth leol sydd yn atebol i aelodau etholedig o bedwar cyngor y bartneriaeth. Mae’r rhain yn gweithio ac yn darparu arweiniad trwy Gyd Bwyllgor ESIS, sydd yn cynnwys uwch aelodau a phrif swyddogion o bob un o’r awdurdodau partner.

Caiff penderfyniadau ac atebolrwydd eu gwasanaethu ymhellach gan y Bwrdd Rheoli. Mae hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o benaethiaid ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, ynghyd â phenaethiaid Gwasanaethau Addysg a Phlant o’r pedwar awdurdod. Mae’r Bwrdd Rheoli’n darparu persbectif proffesiynol ychwanegol a thros olwg o waith ESIS ac mae’n hysbysu’r Cyd Bwyllgor.
 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: