Mae'r cwricwlwm 8-14 newydd yng Nghymru'n gyfle cyffrous i wella'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl mewn cymuned fodern, dechnolegol.
Un broblem sydd yn wynebu athrawon wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn yw'r diffyg adnoddau priodol sydd yn gweddu'n union i'r cwricwlwm.
Fodd bynnag, mae Symud Ymlaen ag Addysgu Ymholiad Gwyddonol yn adnodd gan DCSF a ddyluniwyd i gyflwyno'r cwricwlwm yn Lloegr, ond gyda nifer o weithgareddau ac adnoddau wedi'u haddasu ar gyfer ein hanghenion ni.
Mae'r adnodd yn cynnwys nifer o adnoddau addas ar gyfer cyflwyno sgiliau ymholiad gwyddonol i'r disgyblion. Mae'r athroniaeth sydd yn sylfaen i'r ymagwedd benodol hon at addysgu ymholiad gwyddonol wedi'i seilio ar:
1. leihau'r amser mewn a dreulir mewn gwersi Gwyddoniaeth CA3 yn atgynhyrchu nodiadau adolygu dibwynt;
2. leihau ar ailadrodd gwaith blaenorol a wnaed yn CA2;
3. gynyddu'r amser a dreulir ar ymholiad gwyddonol.
Un o syniadau allweddol yr ymagwedd hon yw bod disgyblion yn dysgu sgiliau anodd yn well pan gânt eu cyflwyno mewn cyd-destun lle mae'r gofynion ar agweddau eraill y wers, megis datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol, yn isel.
Mae gwerth nodi, mewn Gwyddobiaeth, mae cysylltiad agos iawn rhwng ymholiad a meddwl. O achos hyn, mae mwyafrif yr adnoddau hyn hefyd yn ddefnyddiol i ddatblygu sgiliau meddwl y disgyblion.
Mae'r adnodd am ddim a gellir ei archebu ar-lein gan Prolog. Cliciwch yma i gael mynediad at y ffurflen archeb ar gyfer y CD-ROM.
Pam na wnewch chi ei drio?