Mae'r Lindys Clyfar yn gofnod dysgu electronig y gobeithir y bydd yn helpu disgyblion cynradd (ac o bosib uwchradd) i ddatblygu'u dealltwriaeth o ymholiad gwyddonol.
Mae'r lindys wedi'i seilio ar ddau adnodd ar wahân, Y Lindys Llwglyd Iawn o'r llyfr plant gan Eric Carle, a'r gweithgaredd Lindys o Raglen Datblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu gan APADGOS.
Gobeithiwn y bydd graffeg y lindys yn helpu disgyblion i ganolbwyntio ar y 14 sgil gwahanol sydd yn rhan o ymholiad ac i ddatblygu'u dealltwriaeth wrth iddyn nhw addasu'r disgrifiadau ar gyfer pob un sgil wrth i'w dealltwriaeth ddatblygu'n gynyddol.
Mae tudalenau'r cofnod dysgu'n galluogi disgyblion i ganolbwyntio ymhellach ar bob un sgil ar wahân, datblygu'u dealltwriaeth dros amser wrth iddyn nhw ychwanegu disgrifiad o'r hyn y gallan nhw ei wneud ymhob sgil, crynodeb o dystiolaeth i ddangos eu bod yn gallu gwneud hyn a chamau nesaf posib mewn dysgu. Gallai athrawon hefyd ychwanegu ysgogiadau ar gyfer datblygiad pellach.
Os ydych chi'n treialu'r lindys, gadewch wybod i fi eich barn. Cysylltwch â mike.tibbott@esis.org.uk
|
|
The Clever caterpillar | 27 KB | ||
| An electronic learning log for key stage 2 pupils, studying science. | ||||