Dysgu ac Addysgu >> Helpu Disgyblion i Gael Mynediad at Lefelau Uwch yng Nghyfnod Allweddol 3

Mae'r cwricwlwm Gwyddoniaeth newydd yng Nghymru yn nodi 14 sgil y gall disgyblion eu datblygu. Mae pump o'r sgiliau hyn yn gysylltiedig â chynllunio, chwech â gwaith datblygu a thri â myfyrio. Cynllunio, datblygu a myfyrio yw'r tri cham mewn meddwl.

Un o'r sgiliau pwysicaf ar gyfer unrhyw wyddonydd yw'r gallu i esbonio pethau'n effeithiol, a bydd angen i ddisgyblion Lefel 5 neu uwch ddefnyddio modelau gwyddonol mwyfwy soffistigedig.

Gall disgyblion sydd yn gweithio o fewn Lefel 5 ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol, gan gynnwys modelau syml, wrth esbonio'u canfyddiadau a/neu wahaniaethau rhwng, neu newidiadau i organebau, deunyddiau a ffenomena ffisegol.

Gall disgyblion sydd yn gweithio o fewn Lefel 6 ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth haniaethol, gan gynnwys modelau, wrth esbonio'u canfyddiadau a/neu wahaniaethau rhwng, neu newidiadau i organebau, deunyddiau a ffenomena ffisegol. Gallant hefyd adnabod efallai y bydd angen ystyried nifer o ffactorau a/neu brosesau wrth esbonio newidiadau.

Gall disgyblion sydd yn gweithio o fewn Lefel 7 esbonio i ba raddau mae eu canfyddiadau'n gyson â gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol, gan ddefnyddio syniadau haniaethol ar brydiau. Hefyd, mewn esboniadau gallant gymhwyso syniadau haniaethol a gwneud cysylltiadau rhwng prosesau neu systemau a/neu ddechrau defnyddio'u hesboniadau i wneud rhagfynegiadau.

Mae strategaethau wedi'u dogfennu'n dda y gall athrawon eu defnyddio i atgyfnerthu gallu disgyblion i weithio gyda modelau. Mae llyfryn RSC o'r enw On the Ball yn disgrifio ymagwedd ardderchog at ddatblygu gallu disgyblion i ddefnyddio modelau gronynnau. Dyluniwyd y strategaethau hyn i helpu disgyblion i ddefnyddio modelau yn fwy effeithiol o fewn hen CC gwyddoniaeth Cymru a Lloegr, ond gellir ei ddefnyddio yn y dosbarth Gwyddoniaeth heddiw.

Yn wahanol i rai syniadau da, mae addysgu disgyblion i ddefnyddio modelau'n effeithiol yn anodd, gan alw am sgiliau addysgu da. Fodd bynnag, mae'r ymagwedd yn fuddiol. Trïwch y syniadau o On the Ball a gadewch wybod i Mike Tibbott, Ymgynghorydd Gwyddoniaeth ESIS eich meddyliau. Gellir ei gysylltu trwy e-bost ar mike.tibbott@esis.org.uk neu ar y ffôn ar 01443 827500.
 


16 Mehefin 2009
Ymwneud â / ag: Gwyddoniaeth, Cyfnod Allweddol 3

 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn:

Chwilio Cyflym

Ymwneud â / ag