Dysgu ac Addysgu >> Cwestiynau Mawr mewn Gwyddoniaeth

Mewn Gwyddoniaeth, mae angen i ddisgyblion ddatblygu eu syniadau am sut a pham mae pethau'n digwydd. Gall athrawon helpu athrawon i feddwl yn well gan ddefnyddio 'Cwestiynau Mawr'. Mae'r cwestiynau hyn yn aml yn annelwig, felly gall disgyblion gwahanol gynnig ystod o atebion am eu bod wedi dehongli'r cwestiwn yn wahanol. Pan fo disgyblion yn trafod eu hatebion a'r rhesymau drostynt, maent yn aml yn ymgymryd â metawybyddiaeth. Mae hyn oll yn helpu disgyblion i ddatblygu strategaethau meddwl a gobeithio hefyd yn eu paratoi'n well i feddwl. Bydd y cyswllt ar waelod yr erthygl hon yn eich tywys i APADGOS 'Sut i Ddatblygu Meddwl ac Asesu ar gyfer Dysgu' lle trafodir nifer o syniadau i symbylu meddwl, gan gynnwys defnydd cwestiynau mawr.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o 'Gwestiynau Mawr' mewn perthynas â'r Ddaear Gynaliadwy.
1. Ble all ddydd fod yn hirach na blwyddyn? Yr ateb yw planed Mercher, ond nid cael yr ateb yn gywir sydd yn bwysig. Gall y dosbarth ddefnyddio a chymhwyso'r hyn a wyddant am hyd dydd a hyd blwyddyn ar y Ddaear ac awgrymu aileirio'r cwestiwn i 'Pa blaned sydd yn cymryd hirach i droelli unwaith ar ei echelin nag i deithio unwaith o amgylch yr Haul? Gellir ymchwilio i'r ateb hwn, e.e. o fas data megis yr un yn Planet 10 ar y wefan planet-science.

2. Pam mae un ochr o'r lleuad o hyd yn dywyll? Dyma un o sawl cwestiwn yn yr adnoddau Carwnau Cysyniad. Mae'r cartŵn sydd yn gysylltiedig â'r cwestiwn hwn i'w weld trwy glicio yma.

3. Pa un yw'r mwyaf, yr Haul neu'r Lleuad? Eto, mae'r cwestiwn yn annelwig yn bwrpasol. Efallai bydd rhai disgyblion yn gwybod bod yr Haul llawer yn fwy, efallai byddai eraill wedi sylwi bod y Lleuad yn edrych yn fwy (gan ei fod yn agosach).

Lawr lwythwch y cyflwyniadau PowerPoint CONUNDRUM ac ICEBREAKER. Yn Conundrum, mae bocs testun ar waelod y dudalen ble y gallwch chi deipio cwestiynau mawr. Pan fyddwch chi'n cau'r PowerPoint bydd yr opsiwn gennych i safio'r newidiadau. Unwaith i chi safio'r cwestiwn, ailenwch y PowerPoint er mwyn adlewyrchu'r cwestiwn a'i ddefnyddio ar fwrdd gwyn rhyngweithiol i ysgogi trafodaeth. Mae Icebreaker yn eithaf syml, ond y tro hwn mae cwestiwn a phedwar 'ateb' posib a gall disgyblion drafod yr eithriad. Unwaith eto, nid yw'r nod i ddewis tri ateb 'anghywir' ac un 'cywir', ond yn hytrach i ddewis atebion eraill a fydd yn ysgogi trafoadaeth.

Mae'r ddau lawr lwythiad hyn yn fersiynau syml o ddeunyddiau a rannwyd yn ystod cyrsiau Gwyddoniaeth CA2 a 3 yn ESIS. Mae amerwyr wedi eu hadeiladu i mewn i'r rhai gwreiddiol, fel y gellir rhoi cyfyngiad amser ar drafodaethau'r disgyblion ar y cwestiynau, e.e. gweithgareddau mewn parau neu grwpiau o bedwar. Mae copïau o'r adnoddau gwreiddiol ar gael trwy e-bostio Mike Tibbott ar mike.tibbott@esis.org.uk

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mawr a fyddai'n ysgogi trafodaeth mewn dosbarthiadau CA2 neu 3, e-bostiwch mike.tibbott@esis.org.uk a fydd yn eu llwytho ar y wefan hon.

Cyswllt:

Ffeiliau Cysylltiedig
WMA (Audio) File Icebreaker.pps 27 KB
WMA (Audio) File Conundrum.2.pps 83.5 KB

17 Mehefin 2009
Ymwneud â / ag: Gwyddoniaeth, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cynradd

 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn:

Chwilio Cyflym

Ymwneud â / ag