Dysgu ac Addysgu >> Buddsoddwyr Mewn Teuluoedd

Lansiwyd Buddsoddwyr Mewn Teuluoedd yng Nghymru ym mis Ionawr 2008 a chafodd ei beilotio ar draws Consortiwm Canolbarth y De yn ystod y flwyddyn, gan roi cyfle i'r pum awdurdod lleol i gydweithio. Mae ysgolion sydd yn derbyn y wobr arobrun hon wedi arddangos sut maent wedi cwrdd â saith nod craidd 'Hawliau Gweithredu' Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran eu gwiath gyda theuluoedd.

Ym mis Hydref 2008, daeth Jane Hutt, Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, i ESIS i gyflwyno tystysgrifau i'r pymtheg ysgol sydd wedi cyflawni'r wobr yn llwyddiannus.

Mae nifer o nodweddion unigryw i Gymru yn y cynllun, gan ei fod yn darparu model hunan werthuso i ysgolion i dracio cynnydd yn erbyn CRIS ac Estyn. Roedd y peilot yn cynnwys nifer o ysgolion fel aseswyr cyfoedion, gan gefnogi rhwydweithio a rhannu arfer dda. Bu raid i ysgolion gyflwyno portffolio tystiolaeth fanwl a chafwyd cyfweliadau â staff, rhieni, disgyblion ac asiantaethau partner fel rhan o'r broses. Yn ogystal, bu raid iddynt baratoi cynllun gweithredu a fydd yn llywio'u gwaith gyda theuluoedd dros y tair blynedd nesaf.

“Mae ffocws cadarn ar gynnwys rhieni ymhob agwedd o fywyd ysgol. Mae hon yn nodwedd ragorol. Caiff eu cysylltu ar bob lefel. Mae rhieni'n gwerthfawrogi'r cyfle i gyfrannu at fywyd ysgol. Yr ysgol yw'r cyntaf yng Nghymru i ennill y Marc Ansawdd Buddsoddwyr Mewn Teuluoedd, gan ddangos ymrwymiad llawn yr ysgol i gefnogi disgyblion a myfyrwyr, eu teuluoedd a'r gymuned.” Ysgol Ynysawdre, Pen-y-bont ar Ogwr, Estyn, Tachwedd 2008.

“Mae partneriaeth yr ysgol gyda rhieni a gwarcheidwaid yn rhagorol. Mae'n ceisio ac yn ystyried eu safbayntiau trwy arolygon a holiaduron systematig. Mae wedi ennill y wobr Buddsoddwyr Mewn Teuluoedd i gydnabod ei gwaith gyda rhieni.” Ysgol Gyfun Blackwood, Caerffili, Estyn, Ebrill 2009.

Mae'r cynllun bellach yn cael ei gyflwyno ar draws Consortiwm Canolbarth y De i ysgolion a sefydliadau eraill. Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Sue Allerston, sue.allerston@esis.org.uk

Ffotograffau
Dwy o'r ysgolion yn derbyn eu tystysgrifau gan Jane Hutt.
Joanne Spearman – Prif Ferch a Christopher Curley – Prif Fachgen o Ysgol Gyfun Blackwood.
Leighana Bryant a Jack Jones o Ysgol Gynradd Ffynnon Taf

www.investorsinfamilies.org.uk
 

Ffeiliau Cysylltiedig
WMA (Audio) File Investors in Families - Blackwood Comprehensive 1.64 MB
Jane Hutt presenting IiF certificate
WMA (Audio) File Investors in Families - Ffynnon Taf Primary 1.73 MB
Jane Hutt presenting IiF certificates

22 Gorffennaf 2009
Ymwneud â / ag: Buddsoddwyr mewn Teuluoedd

 

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn:

Chwilio Cyflym

Ymwneud â / ag