Cyfansoddwyd y tri darn hwn ar gyfer cerddorfa ddosbarth gan Jenny Rimmer. Bu Jenny am sawl blynedd yn Bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Gyfun Cardinal Newman yn Rhondda Cynon Taf. Ers ei hymddeoliad, mae hi wedi cynnal ei diddordeb mewn addysg cerddoriaeth trwy weithio gydag UWIC ac ESIS. Mae hi wedi arbenigo mewn cynhyrchu cyfansoddiadau a threfniadau ar gyfer cerddorfa ddosbarth ac mae nifer o'i darnau bellach ar gael ar wefan NGfL Cymru.
Mae Going for Seven wedi'i anelu ar ddosbarthiadau Blwyddyn 7 - i gael disgyblion i ddechrau ar waith cerddorfa ddosbarth. Dyluniwyd Stomp a Caribbean Calypso i gyflwyno disgyblion i fathau penodol o gerddoriaeth; gellir eu defnyddio naill ai â dosbarthiadau Blwyddyn 7 neu â dosbarthiadau Blwyddyn 8 neu 9 gallu is.
Dylai'r ffeiliau MIDI sydd yn cynnwys y feddalwedd agor o fewn unrhyw fersiwn o Sibelius neu unrhyw raglen gerddoriaeth arall. Mae nodiadau addysgu hefyd ar gael ar gyfer dau o'r darnau.
|
|
going_for_seven.mid | 7.4 KB |
|
|
GOING_FOR_SEVEN_notes.doc | 29.5 KB |
|
|
Caribbean_Calypso.mid | 3.8 KB |
|
|
Caribbean_Calypso_notes.doc | 29.5 KB |
|
|
Stomp.mid | 8.9 KB |