Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi arweiniad i ysgolion ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yng Nghyfnod Allweddol 4.
Mae'r ddogfen yn argymell y dylai athrawon roi cyfle i'r holl ddysgwyr ddatblygu a chymhwyso'u sgiliau TGCh yn ystod addysg 14 – 16, a, lle bo'n briodol i ddysgwyr gael y sgiliau hynny eu cydnabod yn ystod CA4 gyda chymhwyster achrededig.
Mae'r ddogfen yn esbonio bod TGCh yn faes pwnc hynod newidiol a dylid adlewyrchu hyn mewn datblygiadau er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr yng Nghymru fynediad at gyrsiau a chymwysterau TGCh sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae cyfres o astudiaethau achos sydd yn disgrifio darpariaeth mewn chwech ysgol sydd yn ymdrin ag ystod eang o gymwysterau.
Mae'r ddogfen yn rhestru ystod o gyrsiau TGCh arbenigol gan gynnwys:
• BTEC
• CLAiT
• DiDA
• Digital Cre80r
• ECDL
• TGAU (Cwrs llawn a byr)
• OCR Nationals
• Diploma Principal Learning