Mae Link2Learn yn fframwaith strategol sydd yn cefnogi datblygiad rhwydweithiau o ysgolion trwy hyrwyddo a rhannu arfer dda. Mae ysgolion wrth galon y rhwydwaith gydag ysgolion unigol a chlystyrau yn nodi eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer datblygiad.
Cefnogir y rhwydwaith gan y rhaglen hyfforddi sgiliau Think2Learn. Mae hon yn rhaglen opsiynol y gall ysgolion ddewis ymgymryd â hi. Mae’n cynnwys ystod eang o adnoddau dysgu ac addysgu sylfaenol sydd yn canolbwyntio’n fawr ar ofynion cwricwlwm diwygiedig Cymru.
Mae’r strwythur yn darparu cefnogaeth ar ffurf ymgynghorwyr hwyluso sydd yn gweithio gyda Chydlynwyr Dysgu ac Addysgu a grwpiau o athrawon. Eu nod yw gwella ansawdd dysgu ac addysgu ymhellach yn unol â gofynion diwygiedig y cwricwlwm a chofnodi canlyniadau eu hymdrechion mewn ffordd y gall eraill ei deall yn hawdd.
Mae bas data gwe Link2Learn o arfer dda yn cynnwys gwybodaeth o’r holl ystod oedran.
Er bod hwyluswyr wedi’u dyrannu i glystyrau penodol, gall unrhyw athrawon neu grŵp o athrawon gymryd rhan yn y rhwydwaith trwy gael mynediad at y bas data a/neu anfon ymlaen un neu fwy o enghreifftiau o arfer dda i’w cynnwys o bosib yn y bas data.