| ALl | Caerffili | Enw'r Ysgol | Lewis Girls Comprehensive School |
|---|
Dyma ganlyniad gwaith ymchwil gweithredu ar raddfa fach yn y dosbarth gan athro Daearyddiaeth a lwyddodd ennill achrediad radd Feistr trwy fenter ar y cyd rhwng ESIS/UWIC ar Ddatblygu Sgiliau Meddwl.
Teitl gwaith ymchwil Nicky Matthews oedd:
Effaith Strategaeth Chwe Het Meddwl De Bono ar allu disgyblion i gyflawni sgiliau meddwl lefel uwch o fewn gwersi Daearyddiaeth Cyfnod Allweddol3.
Ffocws:
Dyluniwyd gwaith ymchwil gweithredu graddfa fach hwn i edrych ar effaith strategaeth Chwe Het Meddwl De Bono (2000) ar sgiliau meddwl lefel uwch mewn gwersi Daearyddiaeth Cyfnod Allweddol 3. Digwyddodd mewn ysgol fawr un rhyw yng Nghymoedd De Cymru. Dangosodd y canlyniadau fod meddwl yn weithgaredd a ddysgir a bod ymagwedd strwythuredig De Bono (2000) yn effeithio'n bositif ar allu disgyblion i ennill y sgiliau meddwl uwch creu a Gwerthuso fel yr amlinellir gan Bloom (1956). Amlygodd y canlyniadau fuddion positif y strategaeth hon ar ymddygiad yn y dosbarth. Mae'r strategaeth Chwe Het Meddwl yn un amlweddog o ran y sgiliau mae'n eu cwmpasu, a gan gofio mai nod addysgu sgiliau meddwl yw creu cenhedlaeth yn yr 21ain ganrif sydd yn hunan gynhaliol wrth ddatrys problemau a gweithio mewn tîm, gallai'r strategaeth hon fod y ffordd ymlaen os yw un strategaeth i gael ei mabwysiadu.
Er mwyn gweld y traethawd hir llawn, cysylltwch â'r ysgol.