| ALl | Pen-y-bont ar Ogwr | Enw'r Ysgol | Newton Primary School |
|---|
Beth oedd ffocws y gwelliant?
Canolbwyntio ar dri maes cysylltiedig er mwyn cynorthwyo datblygiad y cwricwlwm sgiliau o fewn CA2. Y meysydd a ddewiswyd oedd:
1. Datblygu meini prawf llwyddiant (Sgiliau meddwl)
2. Trafodaeth cyfoedion (Asesu ar gyfer dysgu)
3. Asesu cyfoedion (Asesu ar gyfer dysgu)
Beth wnaethom ni?
Defnyddiom ni logiau dysgu fel man ffocws i ddatblygu'r tri maes. datblygom ni system asesu cyfoedion gan ddefnyddio ein fformat ein hunain oedd yn galluogi defnyddio meini prawf llwyddiant trwy drafodaeth cyfoedion.
Defnyddiom ni system 'PIE' Newton.
P – Cyflwyniad I – Diddordeb E – Ymdrech
(5 Marc) (10 Marc) (Ymdrech)
Pob wythnos, cyflwynodd a thrafododd y disgyblion ansawdd gwaith ei gilydd mewn grwpiau bach. Penderfynwyd ar sgoriau a lliwiwyd segmentau'r siart gylch yn briodol. Atododd bob disgybl siart sgôr PIE bach er mwyn siartio'r gwaith. Cafodd bob grŵp enillydd a phleidleisiodd y dosbarth ar 'Log Dysgu'r Wythnos' cyffredinol.
Beth oedd y canlyniadau?
- Galluogodd hyn i ddisgyblion drafod, cyflwyno ac asesu eu tasgau log dysgu ei gilydd gan ddefnyddio
fformat strwythuredig a chlir. Gwellodd sgiliau trafod grŵp.
- Cwblhaodd mwy o ddisgyblion eu tasgau gwaith cartref a mwynhau gwneud.
- Cafodd disgyblion well ddealltwriaeth o sut i gyflwyno'u gwaith yn effeithiol.
- Anogodd y gweithgaredd hwn sgiliau ymchwil (Llyfrgell, rhyngrwyd, trafodaeth ag oedolion)
- Atgyfnerthwyd cysylltiadau cartref ysgool
- Dechreuodd disgyblion drafod sut i wella'u gwaith.
Pa dystiolaeth a gasglwyd i arddangos gwelliannau?
Mae gan bob dosbarth a disgybl yn CA2 logiau dysgu unigol fel ffynhonnell dystiolaeth.
Mae lefelau cynnydd a gwelliant yn glir.
Beth a ddysgwyd am arfer addysgu a dysgu'r disgyblion?
Mae disgyblion yn ymateb yn dda i weithio mewn grwpiau a thrafod y gwaith maen nhw wedi'i gynhyrchu. Mae angen gosod meini prawf llwyddiant clir er mwyn i'r dull hwn weithio'n gyson. Mae tegwch wrth asesu ac empathi tuag at waith eraill yn werthoedd a fydd yn cael eu datblygu. Mwynhaodd disgyblion y tasgau hyn yn fawr ac atgyfnerthwyd nifer o sgiliau allweddol.
Ein nod nesaf
Atgyfnerthu'r dull hwn o ddysgu ac addysgu dros y flwyddyn nesaf. Gellid defnyddio trionglau myfyrio ym mlynyddoedd 5 a 6.