Dyluniwyd y wefan Link2Learn i helpu ysgolion ac ESIS i rannu arfer dda mewn ffordd strwythuredig, hawdd ei defnyddio. Mae’r fformat yn cynnwys Siwrnal Dysgu a Dogfennaeth Gefnogol. Mae’r Siwrnal Dysgu yn dros olwg ysgrifenedig o’r arfer dda sydd yn darparu dealltwriaeth gyflym i’r darllenydd o nodau, gweithgarwch a chanlyniadau’r gwaith. Mae’r ddogfennaeth gefnogol yn darparu mwy o fanylion trwy astudiaethau achos cynhwysfawr, ffotograffau, cyflwyniadau ac ati.
Os hoffech rannu eich arfer orau ag ysgolion, gallwch wneud trwy gyflwyno’ch astudiaeth achos i’r wefan. Mae’r broses yn hawdd ac uniongyrchol gyda’r wefan yn eich llywio trwy’r holl broses.
Canllawiau
Mae’r Siwrnal Dysgu yn darparu tros olwg cryno o nodau, gweithgarwch a chanlyniadau’r arfer, gan ddangos dysgu’r disgyblion a’r athrawon. Fe’i gyflwynir fel chwe chwestiwn allweddol sydd RAID eu cwblhau yn y drefn ganlynol. Cadwch eich atebion yn gryno a defnyddiwch bwyntiau bwled lle bo’n bosib. Gallwch gyflwyno gwybodaeth fanylach ar ffurf astudiaeth achos.
1. Beth oedd y ffocws ar gyfer gwella?
2. Beth wnaethom ni?
3. Beth oedd y canlyniadau?
4. Pa dystiolaeth sydd gennym i ddangos y gwelliannau?
5. Beth ddysgon ni am arferion addysgu ac am ddysgu disgyblion?
6. Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud nesaf
Awgrymwn eich bod chi’n copïo ac yn gludo’r cwestiynau uchod mewn dogfen Word a’ch bod chi’n cwblhau eich Siwrnal Dysgu yn y ddogfen Word cyn ei gopïo i’r wefan.
Gallwch lwytho ffeiliau ychwanegol i gefnogi’ch Siwrnal Dysgu, er enghraifft ffotograffau, cyflwyniadau PowerPoint, copïau wedi’u sganio o waith disgyblion ac ati. Cyfyngwch hyn i dair dogfen gefnogi i bob Siwrnal Dysgu. Dewiswch yn ofalus pa ffeiliau sydd yn arddangos eich nodau, eich gweithgarwch a’ch canlyniadau orau. Sicrhewch fod maint ffeil pob dogfen mor fach â phosib (lleihau lluniau) gan y bydd amseroedd llwytho i fyny a lawr lwytho yn araf iawn ar gyfer ffeiliau mawr. Noder na ellir llwytho ffeiliau dros 10mb.
Sicrhewch fod gennych ganiatâd rhieni cyn cymryd lluniau o neu ffilmio disgyblion a bod gennych ganiatâd ychwanegol am gyhoeddi’r delweddau ar y we. Gofynnwn i chi guddio wynebau’r plant er mwyn diogelu eu hunaniaeth.
Diolch am rannu’ch arfer dda.
Llwytho’ch Arfer Dda
Sicrhewch eich bod wedi darllen y canllawiau cyn y cyfarwyddiadau canlynol ar gyfer llwytho’ch deunydd.
Cyn i chi gyflwyno’ch arfer dda i’r wefan rhaid i chi gofrestru ar y wefan a chael eich mewngofnodi.
Pwysig: Rhaid dilyn y broses hon o’r dechrau i’r diwedd mewn un sesiwn. Ni allwch safio’r gwaith ar ei ganol. Peidiwch â gwasgu’r botwm "nôl" ar eich porydd rhyngrwyd neu byddwch chi’n colli’r holl wybodaeth rydych chi eisoes wedi’i hychwanegu.
1. Cliciwch ar newid eitemau (cornel dop ar ochr dde’r sgrin)
2. O dan y pennawd llwyd ychwanegu eitem newydd teipiwch deitl eich eitem arfer orau
3. Yn y bocs dewislen, dewiswch ydych chi’n cyflwyno’ch eitem yn Saesneg (En) neu Gymraeg (Cy)
4. Cliciwch ar ychwanegu eitem
5. Ar y cam hwn bydd teitl yr eitem newydd yn ymddangos yn y rhestr o eitemau rydych chi wedi’u hychwanegu, gyda’r amser a’r dyddiad y crëwyd. Mae gennych ddewis wedyn naill ai i ddileu’r eitem, newid/ychwanegu’r Saesneg (En) neu’r Gymraeg (Cy). Cliciwch ar yr iaith ddymunol.
6. Bydd teitl yr eitem yn ymddangos ar dop y sgrin
7. Rhowch unrhyw eiriau allweddol rydych chi’n meddwl fydd yn berthnasol i bobl wrth chwilio (gallwch adael hwn yn wag pe dymunwch)
8. Dewiswch eich ysgol o’r ddewislen
9. Gludwch eich testun i’r bocs disgrifiad, gan sicrhau bod eich testun yn dilyn y strwythur a amlinellwyd yn y canllawiau
10. Er mwyn ychwanegu dogfennaeth gefnogol, cliciwch ar ychwanegu ffeil newydd
Graddio – rhowch rif sydd yn cynrychioli ym mha drefn rydych chi am i’r ddogfen ymddangos e.e. 1, os ydych chi am i’r eitem ymddangos 1af, 2 ar gyfer ail ayyb
Cyfredol – gadewch yn wag
Teitl – rhowch deitl i’ch dogfen sydd yn unigryw ac ystyrlon
Disgrifiad – brawddeg i ddisgrifio cynnwys yr atodiad
Testun Alt – copïwch a gludwch eich disgrifiad i’r bocs hwn.
Bocs mwy nag un iaith – os ydy’ch eitem ar gael mewn un iaith yn unig, ticiwch y bocs hwn. Bydd hyn yn golygu y bydd yn ymddangos pan fydd pobl yn darllen yr eitem yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Os ydych chi’n dymuno ychwanegu ffeil arall, cliciwch ar ychwanegu ffeil newydd, a dilyn proses 10 eto.
11. Dewiswch y cyfnod(au) sydd yn berthnasol i’r eitem
12. Dewiswch y modiwl(modylau)/Sgil(iau) sydd yn berthnasol i’r eitem
13. Dewiswch y pwnc(pynciau) sydd yn berthnasol i’r eitem
14. Cliciwch ar Cyflwyno
Mae hyn yn golygu bod eich eitem wedi’i gyflwyno i ESIS. Ni fydd yn fyw tan i weinyddwr/wraig yn ESIS wirio’r cynnwys.