Cyhoeddwyd Comisiynydd Plant Cymru yn siaradwr gwadd ar gyfer Cynhadledd Cynhwysiad Merthyr Tudful yn ESIS.
Ar Ddydd Mawrth 16 Mawrth 2010 bydd ESIS yn cynnal y gynhadledd ‘Ysgolion yn Gwneud Gwahaniaeth ym Merthyr Tudful’.
Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, fydd yn cyflwyno'r anerchiad a fe fydd yn lansio 'Gwrando a Dysgu’.
Bydd amrywiaeth o weithdai ar gael; disgwylir i sesiynau gynnwys:
• Dysgu a Lles
• Llai y Dysgwr
• Saesneg fel Iaith Ychwanegol
• Anableddau Corfforol mewn Lleoliadau Prif Ffrwd
• Pontio a DYEC (BESD)
• Datgloi'r Potensial
Yn ystod toriadau canol bore a chinio bydd cyfle gan gyfranogion edrych ar ystod o arddangosfeydd gan gyrff gwirfoddol, asiantaethau cefnogi a sectorau masnachol.
Gwahoddir holl ysgolion Merthyr Tudful i anfon dau aelod o staff ar y gynhadledd a bydd un dydd o gostau cyflenwi ar gael i helpu gyda threfniadau. Cadwwch eich llefydd gan ddefnyddio ffurflen HMS 2 sydd ar gael o'r adran HMS ar wefan ESIS a'i dychwelyd i katherine.harris@esis.org.uk erbyn 1 Mawrth 2010 (cod cwrs 1PID53/M001).