Gwybodaeth Ddiweddaraf » Prosiect Gwersi o Auschwitz Cymru – Mawrth 2010

02 Chwefror 2010

Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru arian ar gyfer Ymddiriedaeth Addysgol yr Holocost i gefnogi’r Prosiect Gwersi o Auschwitz. Mae’r arian wedi galluogi’r Ymddiriedaeth i hwyluso ymweliadau ag Auschwitz i ddau fyfyriwr ôl 16 o bob ysgol yng Nghymru.

Mae’r Prosiect Gwersi o Auschwitz yn cynnwys:

• Seminar hanner dydd lle mae cyfranogion yn dysgu am fywyd Iddewig cyn y rhyfel, yn clywed goroeswr o’r Holocost yn siarad am ei brofiadau, ac yn cwrdd â’u grŵp i baratoi at yr ymweliad ag Auschwitz-Birkenau.

• Ymweliad undydd â Gwlad Pwyl

• Seminar hanner dydd sydd yn galluogi cyfranogion i fyfyrio ar eu profiadau, ystyried gwersi cyfoes o’r Holocost a thrafod a dyfeisio syniadau ymarferol ar gyfer trosglwyddo’r gwersi hyn.

Dyddiadau’r prosiect ar gyfer Cymru yw:
• Seminar cyfarwyddo: 7fed Mawrth
• Ymweliad â Gwlad Pwyl: 11eg Mawrth
• Seminar dilynol: 23ain Mawrth

I ofyn am ffurflen gais cysylltwch â Thîm y Prosiect GoA ar info@lfaproject.org.uk neu 020 7222 4761. Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael ar wefan Gwersi o Auschwitz: http://www.lfaproject.org.uk

Noder:
Hysbyswyd yr holl adrannau AG yn y pedair bwrdeistref sirol o hyn ac maent wedi derbyn ffurflenni cais gan eu hymgynghorydd ESIS.

Sefyllfa bresennol
Mae 50 o ysgolion (100 o fyfyrwyr) wedi cofrestru ar y Prosiect GoA ac mae ceisiadau’n parhau i ddod i mewn.


Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: