Ar gyfer holl fyfyrwyr ar Fodiwl 2 Arweinwyr Canol ESIS - Arweiniad Strategol.
Yn dilyn cwrs ddoe, gallaf gadarnhau mai dyddiad cyflwyno aseiniad y modiwl yw 16eg Ebrill. Daeth Ann Burch o Brifysgol Abertawe'n hwyrach - cafodd ei gohirio gan ddamwain ar y draffordd.
Mae hi wedi cytuno ymdrin â materion diffyg adborth ar y modiwl blaenorol (2 fyfyriwr), dim carden llyfrgell (5 myfyriwr) a dim clawr blaen (5 myfyriwr). Mae hi hefyd wedi cytuno anfon manylion ar sut allwch chi i gyd ddefnyddio'r gwirydd TURNITIN er mwyn sicrhau nad oes unrhyw lên-ladrad yn eich aseiniad. Bydd nodiadau a gwybodaeth ynglŷn â hyn yn cael eu hanfon atoch erbyn 15fed Mawrth (ni fyddwch chi'n gallu defnyddio TUNRITIN tan 2il Ebrill beth bynnag, felly dylai hyn fod yn iawn).
Pob hwyl gyda'ch aseimiad, a chofiwch y cyfeiriadau.
Mike Tibbott