Newyddion » Gŵyl Addysg Grefyddol

19 Gorffennaf 2010

Gŵyl Addysg Grefyddol


Bydd yr ŵyl AG Genedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr yn digwydd trwy gydol mis Mawrth 2011. Pwrpas yr ŵyl yw dathlu arfer dda mewn Addysg Grefyddol yn ein hysgolion. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu ac atgyfnerthu cysylltiadau â’ch cymuned leol er mwyn cefnogi cydlyniad cymunedol.
Yn genedlaethol, fe fydd cystadlaethau, enghreifftiau o addoli ar y cyd arbennig a chân genedlaethol. Mae taflen cyhoeddusrwydd yr Ŵyl AG yn amlinellu nodau’r Ŵyl ac mae ystod o syniadau ar gyfer gweithgareddau dosbarth ar gael ar y wefan genedlaethol www.celebratingre.org. Defnyddiwch y wefan hon nid yn unig am wybodaeth ac i gymryd rhan mewn cystadlaethau, ond hefyd i ddangos digwyddiadau a gweithgareddau rydych chi’n bwriadu eu cynnal yn eich ysgol.

Bydd ESIS yn darparu diweddariadau ar ddigwyddiadau i ddathlu’r ŵyl AG.
 

Ffeiliau Cysylltiedig
PDF (Adobe Portable Document Format) File Gŵyl Addysg Grefyddol 414.6 KB

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: