Gwahoddir Penaethiaid ac Arweinwyr y Cyfnod Sylfaen i fynychu cynhadledd Cyfnod Sylfaen, gyda’r siaradwr gwadd rhyngwladol Yr Athro Ferre Laevers.
Mae’r Athro Laevers yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Addysg Trwy Brofiad, ym Mhrifysgol Leuven, Gwlad Belg. Mae ei waith ar ‘Addysg Trwy Brofiad', a ddechreuodd ym 1976 wedi dod yn un o fudiadau addysg mwyaf sylweddol ledled y byd, gan ddylanwadu ar sefydliad y Cyfnod Sylfaen. Mae’n canolbwyntio ar les emosiynol a lefel ymlyniad plant yn eu haddysg.
Cadwyd dau le i bob ysgol gynradd yng Nghaerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Eich awdurdod lleol sydd yn talu am y llefydd, ond rhaid i ysgolion ariannu eu costau cyflenwi eu hunain.
Bydd ysgolion RhCT yn mynychu ar 23 Tachwedd 2009. Bydd ysgolion Caerffili a Merthyr Tudful yn mynychu ar 24 Tachwedd 2009.
I gadarnhau eich llefydd, cwblhewch ffurflen HMS 2 a’i dychwelyd i’r tîm HMS yn ESIS.