Gwybodaeth Ddiweddaraf » Pecyn dwyieithrwydd Gemau Iard AR GAEL NAWR

09 Tachwedd 2009

Datblygwyd adnodd newydd sbon gan ESIS er mwyn helpu athrawon i ddatblygu sgiliau Dwyieithrwydd disgyblion ar iard yr ysgol.

Mae’r pecyn o gardiau A5 yn cynnwys 50 gêm a ddyluniwyd i addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ffordd hwyl i ddisgyblion 3-11 oed; gan gynnwys rhigymau, gemau clapio, sgipio a pharasiwt. Mae’r gweithgareddau yn annog plant i ymarfer eu geirfa a strwythur brawddegau wrth gael hwyl y tu allan i’r dosbarth.

Dosberthir y pecyn fel rhan o gwrs "Gemau Iard" yn ESIS, wedi’i gynnal gan yr Athrawes Fro, Nia Williams. Mae cost y cwrs yn cynnwys un pecyn i bob cyfranogwr.

Os nad ydych chi’n mynychu’r cwrs, mae’r pecyn ar gael i’w archebu’n syth o ESIS am £50 a chost postio.

I gadw lle ar y cwrs, cysylltwch â’r Tîm HMS.
I archebu pecyn, cysylltwch â gillian.lewis@esis.org.uk
 


Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: