Gwybodaeth Ddiweddaraf » Newyddion Ariannu DPP gan CACC

02 Rhagfyr 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu torri Rhaglen Ariannu DPP ffocws unigol o fis Ebrill 2010. O ganlyniad, ni fydd athrawon yn gallu gwneud cais am Fwrsari, Bwrsari Rhyngwladol, Prosiect Ymchwil Gweithredu, Cynllun Sabothol Athrawon na grantiau Rhwydwaith Proffesiynol, ar ôl y dyddiad hwn.

Fodd bynnag, bydd arian yn dal i fod ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, felly gall athrawon sydd yn gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan AALl yng Nghymru fod yn gymwys am arian gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC) trwy eu rhaglen ariannu datblygiad proffesiynol. Cyfeiriwch at Lyfryn Gwybodaeth Rhaglen Ariannu DPP CACC neu cysylltwch â'r Tîm Datblygiad Proffesiynol am arweiniad pellach: Ffôn 029 2055 0350.

 


Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: