Mae ffocws y bore ar iechyd a lles. Gyda siaradwr gwadd Gerrit Bantjes, bydd cyfle unigryw gan gyfranogion i glywed ei weledigaeth ar weithlu hapus, iach. Mae Gerrit yn siaradwr ysbrydoledig sydd wedi helpu pobl i wella nid yn unig eu lles, ond hefyd eu perfformiad yn y gweithle. Mae'n angerddol am weithio gyda phobl, i'w helpu i wella ansawdd eu bywyd trwy wneud dewisiadau byw syml.
Am weddill y sesiwn fore, bydd cyfle gan gyfranogion i ddewis rhwng dau weithdy. Yn dilyn cinio, bydd Bigfoot Arts Education yn arwain ail anerchiad grŵp gyda pherfformiad theatrig hwyl ar eu rhaglen byw yn iach. Trwy gydol y dydd bydd cyfle hefyd gan gyfranogion i gwrdd ag amryw arddangosfeydd.
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle ar y cwrs, gwelwch y ddogfen PDF isod.
|
|
Hysbys Cynhadledd Ysgolion Iach | 286.1 KB | ||
| Agenda a Gwybodaeth am Siaradwyr y Gynhadledd Ysgolion Iach | ||||