Fel Prif Weithredwr ESIS rwy'n arwain tîm cydweithredol o staff awdurdodau lleol sydd yn gwbl ymroddedig i'r ymdrech gyfrannol o greu'r addysg a'r cyfleoedd bywyd gorau ar gyfer plant a phobl ifanc. I wireddu’r weledigaeth hon, nod ESIS yw defnyddio darbodion maint a gwaith cydweithredol i gyfoethogi dysgu ac ansawdd gwasanaethau, gan weithio o fewn ein pedair Bwrdeistref Sirol partner, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Fel partneriaid Consortiwm Canolbarth y De gyda Bro Morgannwg hefyd, rydym ni'n gwasanaethu'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion cenedlaethol.
Mae tîm ESIS wedi'i greu o bersonél profiadol gyda phenaethiaid ac ymarferwyr ardderchog ar secondiad i'w atgyfnerthu. Rydym ni'n ymroddedig i wella ysgolion a galluogi pobl ifanc, ym mha bynnag lleoliad, i gyflawni eu llawn botensial.
Croeso i'n gwefan. Mae ein gwaith yn aml yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau ein partneriaid agos, felly ble bynnag yr ydych, gobeithiwn y cewch chi rywbeth o werth i chi… cyfle am hyfforddiant efallai, neu syniad o'r adran Link2Learn lle'r ydym yn rhannu arfer dda o ysgolion. Cewch chi nifer o ffyrdd i gysylltu â ni o fewn y tudalennau hyn.