Mae’r datganiad preifatrwydd yn ymdrin â’r wefan hon yn unig, www.esis.org.uk
Mae eich hawl am breifatrwydd yn bwysig iawn i ni a chydnabyddwn pan ddewiswch roi gwybodaeth i ni am eich hunan eich bod chi’n ymddiried ynom i weithredi’n gyfrifol. Bydd gwybodaeth a gesglir gan ESIS yn cael ei chadw a’i phrosesu mewn basau data yr ydym ni yn unig yn perchen arnynt. Ni ddefnyddiwn ‘cwcis’ ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddwyr ac ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch heblaw’r hyn sydd ei hangen ar gyfer gweinyddiad system ein gweinyddydd we.
Credwn y dylid ond defnyddio unrhyw wybodaeth er mwyn ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell i chi. Bydd y system yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth arall y gwirfoddolir gennych. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thrin yn briodol ac yn gyfrinachol. Gellir ei defnyddio i’ch hysbysu am wybodaeth y credwn sydd yn bwysig i chi ac am ddiweddariadau i wefan ESIS.
Efallai bydd ein gwefan yn darparu cysylltau â gwefannau trydydd parti. Mae’r polisi preifatrwydd yn gymwys i wefan ESIS yn unig, gan nad ydym yn rheoli’r gwefannau hyn, anogwn i chi edrych ar bolisïau preifatrwydd y safleoedd trydydd parti eu hunain. Ni fyddem yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol a geir trwy’r we i unrhyw gwmnïau nag unigolion eraill oni ofynnir amdani’n gyfreithiol.
Os yw’r polisi hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddem yn rhoi fersiwn diwygiedig ar y dudalen hon. Mae edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod o hyd yn ymwybodol o’r wybodaeth a gasglwn, sut y caiff ei defnyddio ac o dan ba amodau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.