Telerau Defnyddio

Mae ESIS yn caniatáu defnyddio’r wefan hon o dan y telerau a’r amodau canlynol:

1. Mae defnyddio’r wefan hon yn golygu eich bod chi’n derbyn y telerau a’r amodau sydd yn dod i rym o’r dyddiad y defnyddiwch y wefan gyntaf. Mae ESIS yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau unrhyw bryd gan bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl unrhyw newidiadau yn golygu eich bod chi’n derbyn y telerau a’r amodau diwygiedig.

2. Mae’r wefan hon i gael ei defnyddio at eich defnydd personol anfasnachol eich hun. Ni cheir copïo, ailgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawr lwytho, postio, darlledu na throsglwyddo’r deunyddiau hyn mewn unrhyw ffordd heblaw at ddefnydd personol ac anfasnachol gartref. Mae unrhyw ddefnydd arall yn galw am ganiatâd ysgrifenedig y sefydliad ymlaen llaw.

3. Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan hon dim ond at ddibenion cyfreithiol mewn modd sydd ddim yn amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu neu’n rhwystro defnydd a mwynhad unrhyw drydydd parti o’r wefan hon, nac achosi poendod, anghyfleustra neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiadau neu rwystrau o’r fath yn cynnwys, yn ddieithriad, ymddygiad anghyfreithlon, difrïol neu ymosodol neu all aflonyddu neu beri gofid, anghyfleustra, poendod neu fygythiad i unrhyw un, trosglwyddo cynnwys aflan, bygythiol neu sarhaus neu chwalu llif arferol dialog o fewn y wefan hon.

4. Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltau â gwefannau eraill, efallai na chânt eu gweithredu gan ESIS. Nid yw’r sefydliad yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd all godi o ran eu defnyddio.

5. Mae ESIS yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a’r deunydd ar y wefan hon yn gywir ac yn gywrain ond nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am wallau neu esgeulustod, nac yn gwarantu y bydd defnydd o’r wefan hon yn ddi-dor. Mae ESIS yn darparu’r deunydd a gyhoeddir ar ei gwefan ar yr amod ei fod yn ymwrthod â’r holl warantau o ran deunydd o’r fath, boed wedi’u mynegi neu’u hawgrymu. Nid yw ESIS, ei weithwyr, ei gyflenwyr, na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled busnes, refeniw neu elw, na difrod arbennig, boed uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ôl-ddilynol a godir o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnyddio’r wefan hon.

6. Rydych chi’n cydnabod bod unrhyw hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint a hawliau bas data yng ngwefan y sefydliad a’i chynnwys, yn perthyn neu’n drwyddedig i ESIS, sydd fel arall yn cael ei defnyddio gan ESIS fel y caniateir gan gyfreithiau perthnasol.

7. Mae gan ESIS yr hawl i olygu, gwrthod postio, neu dynnu unrhyw ddeunydd a gyflwynir neu a gaiff ei bostio ar y wefan hon. Nid yw ESIS yn gyfrifol, nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd a gaiff ei bostio ar y wefan heblaw hynny a wneir gan ESIS. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiadau, cynigion neu wybodaeth arall a fynegir neu a wneir gan drydydd parti ar safle’r sefydliad yn rhai’r trydydd parti perthynol. Nid yw ESIS yn cefnogi nac yn gyfrifol am gywirdeb nac atebolrwydd unrhyw ddeunydd o’r fath gan drydydd parti.

8. Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr yn llywodraethu’r telerau a’r amodau hyn. Bydd unrhyw achos a godir o’r telerau a’r amodau hyn yn destun llwyr i awdurdod Llysoedd Cymru a Lloegr.

9. Os welwch unrhyw beth ar y wefan hon sydd yn destun pryder i chi, gadewch wybod i ni.

10. Os nad ydych chi’n hapus ag unrhyw ran o’r wefan hon, neu ag unrhyw un o’r telerau a’r amodau defnyddio, rhowch derfyn ar eich defnydd o’r wefan yn syth.

11. Pe datgenir yr un o’r telerau a’r amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy, bydd elfennau’r telerau a’r amodau hynny sydd yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy, yn cael eu gwahanu a’u dileu o’r cymal a bydd y telerau a’r amodau eraill yn parhau yn eu llawn rym ac yn parhau i fod yn orfodol.

Mewngofnodi...

* indicates a required field
Rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig isod - bydd eich cyfrinair yn cael ei anfon at y cyfeiriad hwn: